• ENGLISH
  • CYMRAEG
Cysylltu â ni
  • Am Wildfox
  • Cwm Afan
  • Y Weledigaeth
Cyrchfan gyffrous newydd i Gymru.

132 hectar o brofiad pur, croeso i Wildfox.

Dyma gyrchfan i’r genhedlaeth nesaf, ble daw antur, natur a llesiant benben â’i gilydd. Â’i wreiddiau’n ddwfn yng Nghwm Afan, cynlluniwyd Wildfox o’r tir am i fyny, i gyffwrdd â phobl, gorff ac enaid.

Dyma ble mae cerbydau’r cwm yn disgyn drwy’r coed, weirenni sip yn pefrio fry uwch amlinell y moelydd, a daw nofio gwyllt wyneb yn wyneb â sawnas tân coed. Mae ein dull o fynd i’r afael â llesiant yr un mor amrwd a gonest â’r dirwedd: plymio i ddŵr iâ, baddonau mwd, cerdded y bryniau, a’r cyfan wedi’i danio gan natur.

Ganwyd pob rhan o Wildfox gan ei amgylchfyd. Fe’i adeiladwyd â deunyddiau lleol, ei ffurfio gan y tymhorau, a’i wreiddio mewn egwyddorion cynaliadwy sy’n treiddio’n llawer dyfnach na’r geiriau bachog diweddaraf. Dyma hamdden wedi’i greu’n gyfrifol, yn naturiol, yn lleol, yn gredadwy.

Dydyn ni ddim yn dilyn y llyfr patrymau. Rydyn ni’n ei ailysgrifennu ar gyfer y mentrwyr, y breuddwydwyr, a’r genhedlaeth nesaf sy’n ceisio antur.

Dyma Wildfox. Cyrchfan, ar ei newydd wedd.

  • Cysylltu â ni
  • Y Weledigaeth
  • Cwm Afan
  • Am Wildfox

Cyfreithiol

  • Cyfrinachedd
  • Cwcis

© Grŵp Cyrchfannau Wildfox 2026
Mae’r delweddau CGI a ddefnyddir ar draws y wefan hon i ddarlunio’n unig.

Wildfox Resorts Footer Logo