• ENGLISH
  • CYMRAEG
Cysylltu â ni
  • Am Wildfox
  • Cwm Afan
  • Y Weledigaeth

Mae Cwm Afan yn ddramatig, yn amrwd, garw a hardd, ac yn lleoliad perffaith ar gyfer ein cyrchfan gyntaf. Yn Ne Cymru, mae’r bryniau serth a’r fforestydd hynafol yn llawn o lwybrau, afonydd ac awyr eang sy’n newid gyda’r tymhorau. Ble bu crud diwydiant, bellach mae’n faes chwarae anturus ac yn hafan i gysylltu.

Lleoliad

Lleolir cyrchfan Cwm Afan 7 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Bort Talbot, rhwng cymunedau Cymer, Caerau, Croeserw a Dyffryn Rhondda.

Uwchlaw Afon Afan, mae’r safle 20 munud mewn car o Gyffordd 40 o draffordd yr M4 a gorsaf drenau Port Talbot (ble gellir dal trenau Llundain).

Yr Economi Leol

Gwyddom mor bwysig yw busnesau bach a lleol i’r economi genedlaethol, a byddwn ni’n eu hyrwyddo drwy ddarparu prosiectau a gweithredu’r gyrchfan.

Rydyn ni’n chwilio am fusnesau arloesol a chynaliadwy i ddod â’n gweledigaeth yn fyw. Felly, ai gyda chi mae’r cynnyrch â’r blas gorau? Celfi ac offer a wnaed â llaw o ddeunyddiau lleol? Neu hyd yn eod y dechnoleg ddiweddaraf i helpu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd?

Rydyn ni eisiau gwybod!

Llenwch y ffurflen i gofrestru eich busnes a mynegi eich diddordeb mewn ymuno â’r criw.

  • Cysylltu â ni
  • Y Weledigaeth
  • Cwm Afan
  • Am Wildfox

Cyfreithiol

  • Cyfrinachedd
  • Cwcis

© Grŵp Cyrchfannau Wildfox 2026
Mae’r delweddau CGI a ddefnyddir ar draws y wefan hon i ddarlunio’n unig.

Wildfox Resorts Footer Logo