Dysgu mwy am Grŵp Cyrchfannau Wildfox.
Sefydlwyd Wildfox yn 2021 i arwain ton newydd mewn cyrchfannau antur a llesiant.
Mae Wildfox yn fwy na chyrchfan, mae’n ffordd o fyw. Dan arweiniad gweledigaeth lachar, bwriodd ein sylfaenwyr ati i greu brand cyrchfannau mwyaf eiconig y Deyrnas Unedig – gan gyfuno antur egnïol, llesiant i adfer corff ac enaid, a chyswllt dwfn â natur.
Mae pob cyrchfan Wildfox yn cyfuno tirweddau naturiol ysgubol, dylunio cynaliadwy, a phrofiadau a wreiddiwyd yn y lleol i ailddiffinio twristiaeth hamdden.
Nid dim ond lle i aros mohonom, rydyn ni’n ddihangfa a luniwyd. Dyma le ble daw egni wyneb yn wyneb â llonyddwch, ble mae’r gwyllt yn agos bob amser, a phob arhosiad yn fythgofiadwy.