• ENGLISH
  • CYMRAEG
Cysylltu â ni
Ymunwch â’r daith
  • Am Wildfox
  • Cwm Afan
  • Y Weledigaeth
Cwm Afan

Camwch i’r Gwyllt

Wildfox Resorts Logo

Mae Cwm Afan yn ddramatig, yn amrwd, garw a hardd, ac yn lleoliad perffaith ar gyfer ein cyrchfan gyntaf. Yn Ne Cymru, mae’r bryniau serth a’r fforestydd hynafol yn llawn o lwybrau, afonydd ac awyr eang sy’n newid gyda’r tymhorau. Ble bu crud diwydiant, bellach mae’n faes chwarae anturus ac yn hafan i gysylltu.

Ein Safle

132 hectar â golygfeydd ysgubol dros Gymoedd De Cymru.

Ein Safle

132 hectar â golygfeydd ysgubol dros Gymoedd De Cymru.

Cynllun y Gyrchfan

Parthau

Y Craidd

Calon fywiog Wildfox, ein cyfleuster canolog trawiadol. Dyma leoliad ein parc antur a dŵr dan do rhagorol, ein cyfleuster llesiant, cynigion lletygarwch amrywiol, siopa a digwyddiadau.

Y Coed Canol

Ynghanol y Coed Pîn mae ein canolfan yn y goedwig. Fferm, siop fferm, stablau, llecynnau gweithdai a lle cyfarfod.

Y Ganolfan Groeso

Eich croeso i Wildfox, ble mae eich taith gyda Wildfox yn dechrau. Llogi offer a cherbydau, gweld y safle, ac F&B

Y Copa

Pwynt uchaf y gyrchfan. Man dechrau gweithgareddau antur, F&B, golygfeydd a chyfarfod.

Y Parthau Llety

Ble mae’r gwyllt yn cysgu. Coed Pîn, Glaswelltir, Dôl yr Awel, Bwlch y Mynydd a Llyn y Sêr, oll yn darparu hafanau trawiadol ar gyfer ein gwesteion.

Lleoliad

Lleolir cyrchfan Cwm Afan 7 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Bort Talbot, rhwng cymunedau Cymer, Caerau, Croeserw a Dyffryn Rhondda.

Uwchlaw Afon Afan, mae’r safle 20 munud mewn car o Gyffordd 40 o draffordd yr M4 a gorsaf drenau Port Talbot (ble gellir dal trenau Llundain).

Yr Economi Leol

Gwyddom mor bwysig yw busnesau bach a lleol i’r economi genedlaethol, a byddwn ni’n eu hyrwyddo drwy ddarparu prosiectau a gweithredu’r gyrchfan.

Rydyn ni’n chwilio am fusnesau arloesol a chynaliadwy i ddod â’n gweledigaeth yn fyw. Felly, ai gyda chi mae’r cynnyrch â’r blas gorau? Celfi ac offer a wnaed â llaw o ddeunyddiau lleol? Neu hyd yn eod y dechnoleg ddiweddaraf i helpu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd?

Rydyn ni eisiau gwybod!

Llenwch y ffurflen i gofrestru eich busnes a mynegi eich diddordeb mewn ymuno â’r criw.

Cysylltu
Ymunwch â’r daith
  • Cysylltu â ni
  • Y Weledigaeth
  • Cwm Afan
  • Am Wildfox

Cyfreithiol

  • Cyfrinachedd
  • Cwcis

© Grŵp Cyrchfannau Wildfox 2026
Mae’r delweddau CGI a ddefnyddir ar draws y wefan hon i ddarlunio’n unig.

Wildfox Resorts Footer Logo