Rydyn ni wrth ein bodd i rannu gwedd newydd Cyrchfan Wildfox.
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r arbenigwyr creadigol, Copper Consultancy, i ddatblygu brand grymus sy’n creu argraff ac yn dweud wrth y byd fod Cyrchfannau Wildfox yn newid y gêm ym maes y diwydiant hamdden a thwristiaeth yn Ne Cymru.
Ein nod yw adeiladu cenhedlaeth newydd o gyrchfannau ffordd-o-fyw sy’n creu profiadau cofiadwy. Mae’r profiad hwnnw’n dechrau gyda’r brand. O greu cymunedau cynhwysol i feithrin ecosystemau lleol, a chynnig profiadau sy’n edrych, yn blasu ac yn teimlo fel rhai o ansawdd – pan fyddwch chi yng Nghyrchfannau Wildfox, byddwch yn rhan o’r criw.
Beth sydd wedi newid?
Mae’r logo newydd yn mynd â’r cyfan yn ôl i hanfod yr hyn sy’n ‘wir’ i Wildfox – bod yn ddewr, yn anturus, ac yn eofn. Mae’r dull lleiafsymiol hwn i’r cynllun yn pwysleisio’i gryfder a’i hyder. | |
Mae Cyrchfan Wildfox yn gysyniad a ysbrydolwyd gan Gymru, a grëwyd yno ac a ddarperir yn y wlad. Rydym wedi datblygu logo dwyieithog i dalu gwrogaeth i’n treftadaeth, ac sy’n sicrhau fod y tîm, rhanddeiliaid ac aelodau’r gymuned yn adnabod ac yn teimlo cyswllt â gwreiddiau’r gyrchfan. | |
Bydd ein cyrchfan gyntaf yn swatio yn harddwch Cwm Afan, gyda golygfeydd panoramig o Gymoedd De Cymru. Wrth gyfeirio at y safle penodol hwn, bydd y brand unigolyddol yn adlewyrchu cyd-destun lleol y tir a’r bobl. |
Meddai Cyfarwyddwr Copper Consultancy, Ronan Cloud: “Wrth wynebu’r fath brosiect uchelgeisiol, sy’n rhoi cymuned, cynaliadwyedd ac adfywio mor ganolog, aeth ein tîm mewnol o bobl greadigol ragorol ati i gyflwyno brand newydd ffres a chyffrous sy’n rhoi gwir ymdeimlad o werthoedd Cyrchfan Wildfox – pobl, planed a phleser.
“Mae’r angerdd dros antur a’r ymrwymiad amlwg i ddarparu profiad cofiadwy gan bawb o dîm arweinwyr Wildfox, a’n tîm o ymgynghorwyr arbenigol, wedi bod yn amlwg ers dechrau’r prosiect. Rydyn ni wedi gweithio’n galed i roi chwistrelliad o’r angerdd a’r ymrwymiad yma i’r brand newydd ac i’n hasedau. Mae gallu chwarae rhan yn y gwaith o ddod â’r weledigaeth hon yn fyw wedi bod yn bleser, ac rydyn ni wrth ein bodd o weld y brand newydd ar waith.”
I gyd-fynd â lansio’r brand, rydym hefyd wedi rhoi ail wynt i’n gwefan. Yno, nid yn unig y gwelwch y brand newydd ar waith, ond gallwch hefyd weld yr holl newyddion diweddaraf am y datblygiad yng Nghwm Afan, cwrdd â’r tîm a gweld ein tudalen Cwestiynau Cyson.
Fel bob amser, hoffem glywed oddi wrthych. Anfonwch neges atom gan ddefnyddio ein ffurflen gysylltu neu defnyddiwch ein sianelau cyfryngau cymdeithasol, a gadewch i ni wybod eich barn!