Mae Grŵp Cyrchfannau Wildfox yn cadarnhau cadw gwasanaeth Lime Transport fel rhan o dîm darparu ehangach cyrchfan Cwm Afan.
Bydd Lime Transport, a leolir ym Mhenarth, yn gyfrifol am gynghori ar agweddau cynllunio trafnidiaeth y prosiect, a chysylltu â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a Llywodraeth Cymru.
Mae gan Lime Transport berthynas weithio gref gydag is-ymgynghorwyr a leolir yn Ne Cymru, a byddan nhw’n cynghori ystod o gleientiaid ar draws y rhanbarth yn y sectorau preswyl, masnachol, hamdden ac addysg. Gweithiodd yr ymgynghorwyr trafnidiaeth ar y cais ar gyfer Cyrchfan Cwm Afan cyn hyn.
Cwrdd â’r tîm:
Andy Roberts (Cyfarwyddwr) | Mae gan Andy 30 mlynedd o brofiad yn y broses gynllunio datblygu defnydd tir. Bydd yn gweithio gyda datblygwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat gan roi cyngor ar ystod eang o gynlluniau ledled y DU a thramor. Mae’i brofiad yn cynnwys asesu dichonolrwydd prosiectau, amlygu rhychwant a ffiniau effaith debygol y datblygiad a pharatoi dogfennau i gefnogi ceisiadau cynllunio, ynghyd â thrafod cytundebau cyfreithiol. |
Lizzie Clark (Uwch-gynllunydd Trafnidiaeth) | Mae gan Lizzie dros bum mlynedd o brofiad yn y broses gynllunio a datblygu, a gweithiodd fel datblygwr preswyl cyn arbenigo mewn cynllunio trafnidiaeth. Mae gan Lizzie ddealltwriaeth dda o’r broses ddatblygu, a bu’n rhan o’r gwaith o goladu a chyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer ystod o brosiectau datblygu. |
Sam Lee (Cynllunydd Trafnidiaeth) | Graddiodd Sam â Gradd Anrhydedd mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Lerpwl yn 2021. Ers ymuno â Lime Transport, bu Sam yn rhan o gynhyrchu ac asesu effeithiau trafnidiaeth ystod o ddatblygiadau ledled y DU. |
Meddai’r Cyfarwyddwr gyda Lime Transport, Andy Roberts: "Fel busnes lleol, rydyn ni wrth ein bodd o fod yn rhan o brosiect mor drawsnewidiol, ac mae’r tîm cyfan wedi cyffroi i allu helpu i symud ymlaen gyda’r gwaith o gyflenwi Cyrchfannau Wildfox yng Nghwm Afan.”
-----
Am Gyrchfannau Wildfox
Cyrchfan Cwm Afan fydd y cyntaf o’i bath yn y DU a dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf mewn twristiaeth, adfywio ac adfer tirlun yng Nghymru, gan greu dros fil o swyddi adeiladu a gweithredu.
Bydd Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan yn cynnig dihangfa sy’n llawn antur i bob oedran, i allu cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys beicio mynydd, llwybrau cerdded a beicio, ceunanta, weirenni zip, dringo, bolwdro, pwll antur i’r teulu a phrofiadau trydan oddi ar yr heol, i enwi rhai. I bobl fydd eisiau seibiant mwy hamddenol neu dipyn o hoe ac adferiad haeddiannol, bydd y gyrchfan yn cynnig sba unigryw yn ogystal â detholiad o fwytai a bariau sy’n hyrwyddo cynnyrch lleol.
Bydd modd i westeion ddewis rhwng ystod o lojys o safon uchel neu i aros yn y gwesty unigryw ac yn ein fflatiau Wildfox, a’r cyfan wedi’u lleoli yn y cwm deniadol, sy’n hawdd cyrraedd at rwydwaith y traffyrdd a’r rheilffyrdd ohono.
P’un ai os ydych chi’n gwpwl sydd eisiau dianc rhag llethdod beunyddiol, yn deulu sy’n chwilio am antur, neu’n grŵp o ffrindiau sydd eisiau creu atgofion, Cyrchfan Wildfox yw’r lle i chi.
Am Lime Transport
Sefydlwyd Lime Transport yn 2015 ac mae’n cynghori ar bob agwedd ar gynllunio trafnidiaeth. Byddwn ni’n darparu tystiolaeth gefnogi ar gyfer ceisiadau cynllunio ar gyfer darparu datblygiadau llwyddiannus, gyda phrofiad helaeth o gynhyrchu strategaethau trafnidiaeth ar gyfer ardaloedd cyfan, gan ystyried anghenion cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys amlygu cyrchfannau teithio llesol allweddol ac asesu addasrwydd y llwybrau cerdded a beicio hyn er mwyn addysgu Asesiadau Strydoedd Llesol. Byddwn hefyd yn cynghori ar barcio beiciau a cheir, diogelwch y ffyrdd a rheoli trafnidiaeth.