top of page

Mae Cyrchfan Wildfox yn falch o fynychu ffair swyddi Cwmafan

Bydd aelodau o dîm Cyrchfan Wildfox yn ymuno â 30 o gyflogwyr eraill yn ffair swyddi Cwmafan a gynhelir yng Nghanolfan Gymunedol Cwmafan.


Mae Cyrchfannau Wildfox yn paratoi’r gweithlu ar gyfer cyfle unigryw, wrth symud ymlaen gyda datblygu’r gyrchfan antur a llesiant gyntaf, gan annog ymwelwyr i ddod i Gymru ac i Gwm Afan.


Amcangyfrifir y bydd rhyw 500 o swyddi uniongyrchol dros dro’n cael eu creu yn ystod y broses gynllunio, drwy gyfrwng swyddi ar y safle yn ystod y cyfnod adeiladu, a 500 o swyddi anuniongyrchol dros dro’n cael eu creu oddi ar y safle. Er bod rhywfaint o’r gwaith paratoi wedi dechrau yn 2022 a 2023, bydd y prif waith adeiladu’n barhaus o adeg y Gwanwyn 2024.


Pan fydd y gyrchfan yn agor yn 2027, rydyn ni’n disgwyl gweld rhyw fil o swyddi parhaus ar y safle. Bydd y gyrchfan ar agor 24/7 – gan greu cyflogaeth barhaus gydol y flwyddyn.


Dros sawl blwyddyn, buddsoddwyd £20m mewn gwaith cynhwysfawr ar y safle ac oddi arno. Mae hyn wedi golygu fod aelodau’r gymuned wedi cael cyflogaeth yn y tymor byr, gyda nifer sylweddol o fusnesau o’r ardal leol a De Cymru’n cefnogi’r gwaith o baratoi’r safle. Yn eu plith mae darparwyr llety, syrfewyr, penseiri, gwasanaethau diogelwch, darparu disel a dŵr, cyflenwyr ffensio ac offer, a mwy.


Mae Cyrchfannau Wildfox a’n hymgynghorwyr Keystone yn falch o hyrwyddo cyfleoedd am yrfaoedd mewn rheoli tirwedd, ecoleg a gwasanaethau amgylcheddol, yn ogystal â buddsoddi amser i gefnogi prosiectau cymunedol lleol.


Ar hyn o bryd mae tîm rheoli Cyrchfan Wildfox yn ailymweld â’r rhaglen waith gyffredinol, er mwyn sicrhau fod y prosiect yn cael ei gwblhau’n llwyddiannus. Mae ein gwaith paratoi ar y safle wedi dod i ben ar gyfer 2023, a bydd yn ailddechrau yn y gwanwyn 2024.


Rydym wedi sefydlu blaenoriaethau newydd o ran datblygu brand, treftadaeth, datblygu gweithlu, gwerthu cymdeithasol a diogelwch y safle. Bydd ail-amserlennu’r gweithgarwch ar y safle’n sicrhau y caiff y gyrchfan ei chyflawni’n effeithiol, tra bo’r manteision i’r gymuned yn cael eu mwyhau i’r eithaf.

Edrychwn ymlaen at barhau i symud cyrchfan Cwm Afan yn ei blaen, ac rydym ni’n parhau i ddilyn yr amserlen a osodwyd er mwyn agor yn 2027.


Bydd tîm Wildfox yn gweithio gyda Grŵp Colegau NPTC ar gynllun datblygu gweithlu er m wyn dechrau ffurfio cyrsiau hyfforddi er mwyn sicrhau y gall pobl leol baratoi i elwa o gyfleoedd yn y gyrchfan.


Bydd hon yn rhaglen gynhwysol a gynigir i bawb, gan gynnwys myfyrwyr ifanc sy’n chwilio am gyflogaeth barhaus, ailhyfforddi oedolion, a chefnogi aelodau o’r lluoedd arfog. Ein gobaith yw y bydd myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC yn cymryd rhan yn y gwaith darparu er mwyn arddangos eu doniau ar draws ystod o sectorau trawiadol.


Gall busnesau sy’n dangos diddordeb mewn dod yn rhan o gadwyn gyflenwi Cyrchfannau Wildfox gofrestru’u diddordeb drwy gyfrwng ein ffurflen benodol ar y we.


bottom of page