132 hectar o brofiad pur, croeso i Wildfox.
Dyma gyrchfan i’r genhedlaeth nesaf, ble daw antur, natur a llesiant benben â’i gilydd. Â’i wreiddiau’n ddwfn yng Nghwm Afan, cynlluniwyd Wildfox o’r tir am i fyny, i gyffwrdd â phobl, gorff ac enaid.
Dyma ble mae cerbydau’r cwm yn disgyn drwy’r coed, weirenni sip yn pefrio fry uwch amlinell y moelydd, a daw nofio gwyllt wyneb yn wyneb â sawnas tân coed. Mae ein dull o fynd i’r afael â llesiant yr un mor amrwd a gonest â’r dirwedd: plymio i ddŵr iâ, baddonau mwd, cerdded y bryniau, a’r cyfan wedi’i danio gan natur.
Ganwyd pob rhan o Wildfox gan ei amgylchfyd. Fe’i adeiladwyd â deunyddiau lleol, ei ffurfio gan y tymhorau, a’i wreiddio mewn egwyddorion cynaliadwy sy’n treiddio’n llawer dyfnach na’r geiriau bachog diweddaraf. Dyma hamdden wedi’i greu’n gyfrifol, yn naturiol, yn lleol, yn gredadwy.
Dydyn ni ddim yn dilyn y llyfr patrymau. Rydyn ni’n ei ailysgrifennu ar gyfer y mentrwyr, y breuddwydwyr, a’r genhedlaeth nesaf sy’n ceisio antur.
Dyma Wildfox. Cyrchfan, ar ei newydd wedd.
-
Nid digwydd mae antur fan hyn, ond cymryd yr awenau. O gyffro dan do ar ffurf waliau dringo, rhwydi awyrol, llamau craig a weirenni sip i mewn i byllau, i barc sblash dŵr cynnes a ysbrydolwyd gan natur, gyda dŵr gwyn a llithrenni. Camwch y tu fas ac mae’n wylltach fyth: cartiau disgyrchiant yn taranu i lawr y llethrau, weirenni sip ar draws amlinell y moelydd, tyrrau hedfan i brofi eich nerfau, cerbyd y cwm yn nadreddu drwy’r coed, a llwybrau beicio a cherdded drwy’r coed sydd o safon ryngwladol.
-
Mae llesiant Wildfox yr un mor arw a real â’r dirwedd. Meddyliwch meddwl-corff-natur! Sawnas arnofiol, cymdeithasol, ar lan y llyn, baddonau iâ, pyllau plymio a thwba twym, i’w rhannu a’u cofio am byth. Nofio gwyllt gorfoleddus ac ymdrochi dŵr croyw, neu mynnwch gydbwysedd gyda thriniaethau hirhoedledd, adferiad a harddwch. Gyda champfa, stiwdio ffitrwydd a lolfa i ailosod ynddi, cynlluniwyd pob manylyn er mwyn adnewyddu, gyda natur yn greiddiol i bopeth.
-
Bwytewch, yfwch a dewch ynghyd, yn null Wildfox.
Mae amryw gynigion bwyd a diod o ansawdd uchel yn ateb pob gofyn. O gynigion bwyd dros dro yn y cwrt bwyd bywiog, i wledda arddull brasserie, y tŷ mygu, i giniawa o’r safon uchaf â’r lleol wrth ei wraidd, cynlluniwyd pob llecyn i fwydo cyswllt. Pwysa’r bwydlenni ar gynnyrch lleol ac ysbrydoliaeth wyllt, gan gynnig cyfleoedd i fwyta ac yfed gydol y dydd sydd o ansawdd uchel, yn grefftus ac wastad yn gofiadwy.
-
Nid dim ond lleoedd i aros ynddyn nhw, ond arosiadau cofiadwy. Mae ein lojys, a gynlluniwyd gan benseiri a’u dylunio i brofi gogoniant Cwm Afan, yn amrywio o ddwy ystafell wely i chwech, a’u creu o ddeunyddiau lleol, eco-gyfeillgar ble daw cynaliadwyedd a steil ynghyd. A hwythau’n cyd-fynd â’u hamgylchedd, mae pob loj yn unigryw, a’u cynllun yn cydbwyso cysur a chymeriad, a’u gwreiddio yn ethos Wildfox: o’r safon uchaf, personol, ac wedi’u lleoli’n berffaith yn natur.
Cwm Afan
Cyrchfan i’r genhedlaeth nesaf ble daw antur, llesiant a natur benben â’i gilydd.







